Uned trochi iaith 'yn her, ond mae'n werth e'

Bydd y cynllun trochi ar gyfer disgyblion sy'n ymuno ag addysg Gymraeg yn hwyr yn ehangu ledled Cymru.

Ddydd Llun fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd wyth o siroedd newydd yn cynnig y ddarpariaeth am y tro cyntaf.

Fe agorodd uned trochi Ysgol Gwent Is Coed ym mis Medi. Cyn hynny roedd disgyblion yn teithio i Gaerdydd i gael eu trochi yn yr iaith.

Un a wnaeth hynny yw Salman - mae ef bellach yn 16 oed a newydd ddechrau yn y chweched dosbarth.

Dywed bod y camau cyntaf yn heriol ond bod y "cyfleoedd ei fod yn cael nawr o'r gymuned Gymraeg yn arbennig o dda".