'Dydi pawb ddim yn gallu bancio ar-lein'

Wrth i fanciau gau drwy Gymru, cwmni Barclays ydy'r diweddaraf i gyhoeddi y byddan nhw'n cau chwech o'u canghennau yma.

Yn ôl y banc mae'r cwsmeriaid sy'n defnyddio'r gwasanaethau cownter wedi gostwng yn arw dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae disgwyl i'r canghennau yng Nghaernarfon, Porthmadog, Gorseinon, Port Talbot, Mynwy a Chas-gwent gau fis Chwefror.

Elen Wyn fu'n casglu'r ymateb i'r cyhoeddiad yng Nghaernarfon ar raglen Newyddion S4C.