Cau ysgolion yn gynt 'i gael Nadolig rhydd o Covid'

Mae meddyg teulu o Ben Llŷn yn dweud y dylai holl ysgolion Cymru gau o leiaf wythnos cyn y Nadolig er mwyn lleihau'r risg fod plant yn heintio eraill wrth i deuluoedd gyfarfod dros yr ŵyl.

Dydy ysgolion y gogledd a'r canolbarth ddim yn cau nes 22 Rhagfyr, ond yn ôl Dr Eilir Hughes gallai hynny ei gadael hi'n rhy hwyr i adnabod achosion positif yr wythnos honno cyn i bobl ddod at ei gilydd.