Harding: 'Gêm hollol wahanol' i ddod yn erbyn Ffrainc
Mae ymosodwr Cymru, Natasha Harding wedi cydnabod fod Cymru'n wynebu "gêm hollol wahanol" yn erbyn Ffrainc nos Fawrth, wrth iddyn nhw barhau â'u hymgyrch ragbrofol i Gwpan y Byd Merched 2023.
Fe enillodd y tîm o 5-0 yn erbyn Gwlad Groeg ym Mharc y Scarlets nos Wener - a Harding yn sgorio - i aros yn ail yn y grŵp, gyda phedair buddugoliaeth ac un gêm gyfartal yn eu pum gêm hyd yma.
Ond dydyn nhw heb chwarae Ffrainc - y prif ddetholion - eto, ac mae Harding yn cydnabod y bydd hi'n "gêm anodd" fydd yn gofyn am dactegau a pharatoadau gwahanol.
Bydd yr ornest nos Fawrth yn cael ei chwarae yn Guingamp, Llydaw, gyda Ffrainc ddau bwynt o flaen Cymru yn y tabl ar hyn o bryd a dim ond enillwyr y grŵp yn sicr o le yng Nghwpan y Byd 2023.