Pryder am gysondeb gwasanaethau iechyd meddwl Cymru
Mae myfyriwr o Ynys Môn yn trefnu arolwg er mwyn casglu tystiolaeth ynglŷn â'r gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru.
Bwriad Gareth Thomas ydy cael cynifer o bobl â phosib i lenwi holiadur er mwyn cael darlun cyflawn o'r sefyllfa ac anfon y wybodaeth at Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y llywodraeth ei bod wedi darparu £783m eleni i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl - cynnydd o £42m ers y llynedd.
Bu'n dweud mwy wrth Kate Crockett ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru fore Mawrth.