Mygydau mewn ysgolion: 'Angenrheidiol ond neb yn falch'

Bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i bawb wisgo mygydau mewn dosbarthiadau ysgol uwchradd, colegau a phrifysgolion ac ardaloedd cymunedol.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai nawr yw'r amser i gyflwyno mesurau diogelwch pellach mewn ysgolion yn sgil y pryder am amrywiolyn Omicron.

"Mae yna dair wythnos yn weddill o'r tymor ac mae'n ddyletswydd arnom i gadw'r plant a staff yn ddiogel," meddai.

Y Gweinidog Addysg Jeremy Miles, disgyblion Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy a'r seicolegydd Dr Nia Williams fu'n rhannu eu barn am y rheolau newydd.