Ymosodiadau ar weithwyr brys ag effaith 'tymor hir'

Mae'r gwasanaethau brys yn galw ar bobl Cymru i gefnogi ymgyrch 'Gyda ni nid yn ein herbyn ni' rhwng nawr a gwyliau'r Nadolig.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys wedi cynyddu bron i 10% eleni o'i gymharu â'r un adeg y llynedd.

Rhwng Ionawr a Mehefin roedd yna 1,360 o ymosodiadau ar weithwyr brys, sy'n gyfystyr ag wyth ymosodiad y dydd ar gyfartaledd.

Fe ymosododd dyn ifanc, oedd angen triniaeth frys wedi gorddos, ar y parafeddyg Darren Lloyd yn 2019.

Mae'n dweud bod ymosodiadau o'r fath yn gallu cael effaith hirdymor ar iechyd meddwl gweithwyr brys fel parafeddygon, plismyn a swyddogion tân sy'n ofni i'r un peth ddigwydd eto wrth ymateb i alwadau brys.