Omicron: Tystiolaeth gynnar bod brechlyn yn 'effeithiol'
Mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu bod brechlynnau Covid-19 yn effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn newydd o'r haint, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd eu dirprwy gyfarwyddwr meddygol dros dro bod y dystiolaeth gynnar yn "galonogol".
Er hyn, pwysleisiodd Dr Eleri Davies bod angen casglu tystiolaeth bellach am amrywiolyn Omicron a bod "cwestiynau'n dal i fod" amdano.
Dywedodd ei fod yn edrych yn "debygol" bod yr amrywiolyn yn lledaenu'n gyflymach nag amrywiolion blaenorol o Covid-19.
Er nad yw'n glir eto a yw Omicron yn achosi salwch mwy difrifol, dywedodd Dr Davies mai'r cyngor yw i gael eich brechu a pheidio cwrdd ag eraill os ydych yn teimlo'n sâl.