4 o bob 10 cartref 'ond yn gallu fforddio nwyddau elfennol'

Does dim digon o arian gan 39% o gartrefi Cymru i dalu am unrhyw beth y tu hwnt i'r nwyddau a gwasanaethau angenrheidiol.

Dyna yw casgliad arolwg newydd ar ran melin drafod Sefydliad Bevan.

Mae'r ystadegau ynghyd ag amcangyfrifon Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod tua 165,000 o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd a bod talu am yr anghenion yn dalcen caled.

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Dr Steffan Evans o'r sefydliad fod y ffigyrau'n waeth na'r disgwyl.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai penderfyniad Llywodraeth y DU i roi stop ar y codiad i Gredyd Cynhwysol sydd yn bennaf gyfrifol am y ffigyrau diweddaraf.