Maisy: 'Fy mhrofiad i o Covid ac anti-vaxxers Twitter'

Ym mis Awst bu'n rhaid i Maisy Evans dreulio cyfnod yn yr ysbyty wedi i'w hiechyd ddirywio ar ôl iddi ddal Covid.

Ond wrth rannu ei phrofiad ar Twitter ac annog pobl i fynd am eu brechiad, daeth ei neges i sylw nifer o bobl wnaeth ddechrau ei sarhau a'i chyhuddo o ddweud celwydd.

Dywedodd bod rhai ohonynt yn "erchyll", gyda rhai'n ei galw'n Nazi a Satan a "dweud mai fi fydd ar fai am unrhyw farwolaethau sy'n dod o'r brechlyn".