Omicron: 'Dau ddos ddim digon effeithiol' medd Drakeford

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi mewn anerchiad ar y teledu y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cynnig brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn "os fydd hynny'n bosibl".

Dywedodd Mr Drakeford fod Omicron yn bygwth creu "sefyllfa ddifrifol iawn" ac erbyn diwedd y mis, Omicron fydd "prif ffurf y feirws, gan gyflwyno ton newydd o haint a salwch".

Mae Mark Drakeford wedi dweud bod y Llywodraeth yn "debygol o orfod cymryd rhagor o gamau i ddiogelu Cymru".

Bydd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn cyhoeddi mwy o fanylion am y rhaglen frechu mewn cynhadledd newyddion ddydd Mawrth.