Cynllun addysgu pobl am y we angen siaradwyr Cymraeg
Mae cynllun sy'n cynghori pobl sut mae defnyddio'u dyfeisiau cyfrifiadurol yn galw am siaradwyr Cymraeg i'w helpu.
Amcan prosiect Cyfeillion Digidol Sir Ddinbych yw paru unigolion sydd angen cymorth gyda gwirfoddolwyr sy'n gallu cynnig arweiniad dros y ffôn.
Ond prin yw'r rheiny sy'n medru gwneud hynny'n ddwyieithog ar hyn o bryd, er bod y fenter eisiau cynnig y gwasanaeth "yn yr iaith mae pobl fwyaf cyfforddus yn ei siarad".
Mae'r cynllun eisoes wedi gwneud gwahaniaeth drwy gyfrwng y Saesneg.
Ond byddai medru rhoi cymorth yn Gymraeg hefyd yn fuddiol, yn ôl Rhys Hughes o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych