Brechu yw'r 'unig ffordd ymlaen i arbed trychineb'

Bydd pob oedolyn sy'n gymwys yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd y flwyddyn "os yn bosib" dan gynllun Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Dr Phil White o Gymdeithas Feddygol Brydeinig Cymru, bydd meddygon yn "gwneud ein gorau i gyrraedd y targed".

Dywedodd ei fod o'r farn mai cyfuniad o dactegau yw'r ffordd ymlaen - canolfannau galw i mewn, gwahodd pobl am eu brechlyn a phobl yn trefnu eu hapwyntiadau eu hunain.

Ychwanegodd ar Dros Frecwast fore Mawrth ei bod yn bosib y bydd angen gohirio rhai triniaethau neu apwyntiadau er mwyn rhyddhau meddygon i frechu.

"Mae'n bwysig i'w gymryd o - dyna'r unig ffordd ymlaen nawr i ni arbed trychineb dros y gaeaf," meddai.