Gweu addurniadau i 'godi calonnau' yn Ystradgynlais

Mae grŵp o bensiynwyr o ben uchaf Cwm Tawe wedi bod yn gweu ers tri mis er mwyn dod â lliw i'w tref cyn y Nadolig.

Dechreuodd y grŵp Knitting Nannas weu blodau bum blynedd yn ôl i'w harddangos o gwmpas Ystradgynlais, Powys.

Mae'r arddangosfeydd mor boblogaidd fel bod y neiniau a'u nodwyddau bellach yn creu un newydd bron bob tymor.

Aeth ein gohebydd David Grundy i Ystradgynlais i weld y gwaith droso'i hun...