Cyfyngiadau newydd: Beth yw'r farn yng Nghaerfyrddin?
Bydd clybiau nos yn cau yng Nghymru ar 27 Rhagfyr fel rhan o'r ymateb i amrywiolyn newydd Omicron o Covid-19.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd rhagor o fesurau yn dod i rym i fusnesau hefyd o'r diwrnod hwnnw, gan gynnwys rheidrwydd i gadw pellter mewn swyddfeydd.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd yn rhoi "canllawiau cryf" i annog pobl i gael dathliadau llai dros y Nadolig ac osgoi cyfarfod "rhagor o ffrindiau" am y tro.
Ychwanegodd fore Gwener nad oedd yn diystyru cyfyngiadau pellach yn cynnwys ail-gyflwyno aelwydydd estynedig, a rheol ar uchafswm o chwech o bobl i gymdeithasu mewn bwytai a thafarndai.
Dyma oedd yr ymateb yng Nghaerfyrddin i'r newyddion o gyflwyno cyfyngiadau newydd.