'Mae codi arian i ailagor tafarn yn waith anodd'
Ty'n Llan, Llandwrog yw'r tŷ tafarn diweddaraf yng Nghymru i ailagor wedi cyfnod ar gau, diolch i gefnogaeth y gymuned.
Fe lwyddodd apêl yn gynharach eleni i godi mwy na'r £350,000 oedd ei angen i brynu'r tafarn yng nghyffiniau Caernarfon, ac i ailwampio'r adeilad cyn ei hailagor i'r cyhoedd.
Mae'r dafarn bellach yn croesawu ymwelwyr unwaith yn rhagor ond fel yr eglura Wyn Roberts, o bwyllgor Menter Ty'n Llan, nid ar chwarae bach y mae sicrhau'r gefnogaeth i sefydlu menter gymunedol o'r fath.