Bwriad i gynnal eisteddfod yn fyw ym mis Ionawr
Ar ôl gorfod canslo y llynedd, mae trefnwyr Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd yn gobeithio cynnal digwyddiad byw ar 22 Ionawr - yr eisteddfod leol gyntaf i'w chynnal ers cychwyn y pandemig.
Mae hynny, wrth gwrs, yn amodol ar yr hyn sy'n digwydd gyda sefyllfa Covid rhwng nawr a hynny, ond ar hyn o bryd, y gobaith yw cynnal eisteddfod fyw.
Bu cadeirydd yr eisteddfod, Sioned Wyn, yn dweud mwy wrth siarad ar Dros Frecwast fore Llun.