Carwyn Jones: Ail gartrefi cefn gwlad yn 'waeth nag erioed'
Mae sefyllfa ail gartrefi wedi gwaethygu mewn ardaloedd gwledig o fewn y ddwy flynedd diwethaf, yn ôl cyn-brif weinidog Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones ar Dros Frecwast ei fod yn hen broblem, a bod "llawer i'w wneud i greu cymunedau cynaliadwy".
Ceisio adeiladu mwy o dai fforddiadwy oedd y strategaeth yn ystod ei gyfnod yn arwain y llywodraeth, meddai.
Ond erbyn hyn dywedodd bod "angen ystyried pethau eraill", er enghraifft cynlluniau i reoli'r farchnad - yn debyg i'r ffordd o weithredu ar ynysoedd fel Guernsey a Jersey, meddai.