Y ceiswyr lloches o bedwar ban byd sy'n dysgu Cymraeg

Mae Xiao Xia, Tsege ac Ayda yn ceisio am loches ym Mhrydain, ac wedi cael llety gan y Swyddfa Gartref yng Nghasnewydd.

Yno mae'r dair yn dysgu Cymraeg mewn gwersi sy'n cael eu darparu am ddim yn sgil partneriaeth rhwng y Groes Goch a Dysgu Cymraeg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Nid dim ond chwilfrydedd sy'n gyfrifol am hynny, ond sawl rheswm - gan gynnwys yr awydd i helpu eu plant yn yr ysgol, a theimlad fod dysgu'r iaith o help wrth wreiddio yma.