O fod yn blismones yn y Met i therapydd tylino

Gyda'r flwyddyn newydd ar y gweill a chyfleoedd i ddechrau bywyd o'r newydd, ydych chi wedi ystyried newid gyrfa?

Un sy'n barod wedi trawsnewid ei bywyd yw Mel Jenkins sy'n byw yng Nghaerdydd.

Buodd yn gweithio fel plismones am 15 mlynedd, cyn rhoi'r gorau i'w gyrfa a phenderfynu troi'n therapydd tylino (massage).

"Fi'n gallu 'neud y penderfyniad nawr i fynd i'r gwely am un o'r gloch y bore, yn lle bod ar y stryd yn arestio rhywun," meddai Mel.