Dementia: 'Fydda gyda ni ddim hawl i weld ein gilydd'
Mae Aelod Seneddol Cymreig yn galw am newid i'r gyfraith er mwyn parchu hawliau dynol cleifion dementia.
Mae'r pandemig wedi effeithio ar allu pobl i weld anwyliaid mewn ysbytai a chartrefi gofal, ac mae elusennau'n dadlau bod iechyd rhai'n dirywio o ganlyniad.
Mae mam Liz Saville Roberts wedi cael diagnosis dementia yn ddiweddar ac mae'n bosib y bydd yn rhaid iddi symud o ysbyty cymunedol i gartref nyrsio.
Dywedodd AS Dwyfor Meirionydd iddi gael "braw" o ddeall bod dim hawl statudol gan bobl â dementia i fywyd teuluol.