Y lleuad o Walchmai, Sir Fôn
- Cyhoeddwyd

O'i ardd gefn yng Ngwalchmai y tynnodd David Jones y llun yma o'r lloer ar 11 Ionawr 2022, a hynny gan ddefnyddio telesgop a adeiladodd o bibell ddraenio blastig ugain mlynedd yn ôl.
David fu'n rhannu'r hanes a'i luniau arallfydol o'r awyr dywyll gyda Cymru Fyw.

Telesgop o bibell ddraenio blastig

David Jones
Ugain mlynedd yn ôl aeth David ati i adeiladu ei delesgop Newtonaidd ei hun gan ddefnyddio pibell ddraenio blastig, drych drud a brynodd gan ffermwr a help llaw ei frawd sy'n weldiwr. Roedd gan David ddiddordeb yn y gofod ers iddo fod yn blentyn wyth oed yn Llanbedrog, a chlywed y newyddion yn torri fod y dyn cyntaf wedi glanio ar y lleuad.
Eglura David: "Pan o'n i'n ysgol roedd pobl yn cael eu hanfon i'r gofod, a roedd ras am bwy fyddai'r cynta' i'r lleuad, mae'n rhaid bod hynny wedi dal fy fascination yn y gofod.
"Ugain mlynadd yn ôl, brynish i ddrych gan ffermwr oedd yn gwneud mirrors i delesgops a wedyn adeiladu y petha' erill rownd y fo. Wnes i brynu drain pipe plastig i fod yn diwb y telesgop, a phetha' i osod y mirror er mwyn creu telesgop Newtonian.

Llun agos o delesgop cartref David a adeiladodd ugain mlynedd yn ôl
Syr Isaac Newton ddyfeisiodd y telesgop Newtonaidd 'nôl ym 1704. Yn lle telesgop gyda lensys gwydr i wneud i'r sêr ymddangos yn nes ac yn fwy, mae telesgop Newtonaidd yn defnyddio drych neu ddrychau crwm i gasglu golau a'i adlewyrchu'n ôl i bwynt ffocws; boed yn gamera neu sylladur (eyepiece).
Eglura David: "Mae yna ddau mirror yn y telesgop - un bach secondary, a'r main mirror. Dim lens gwydr ydy o, ond mirror. Wnes i roi £600 am main mirror y telesgop yma 20 mlynedd yn ôl. Wedyn wnes i osod y mirrors sef yr optics yn y tiwb. Mae'r main mirror yn accurate iawn, dyna pam dwi'n cael llunia' mor glir efo fo.
"Wedyn efo'r stand, gof ydy 'mrawd, Huw Jones. Wnaeth o weldio'r stand ac ati er mwyn dal y tiwb oedd yn cynnwys yr optics. Defnyddio'n pennau a ffidlo wnaethon ni."
Tynnu lluniau

Telesgop cartref David, sydd wedi ei wneud o bibell ddraenio blastig. Mae camera wedi ei osod ar ochr y telesgop (dde)
Er bod y telesgop cartref bellach yn ugain oed, dim ond ers tair blynedd mae David wedi dechrau defnyddio'r telesgop i dynnu lluniau.
Eglura David: "Dwi wedi hanner ymddeol bellach. Plastrwr a töwr ydw i wrth fy ngwaith, ond ers tair blynedd dwi wedi dechrau tynnu llunia' o'r lloer a'r sêr fel hobi, yn hytrach na dim ond sbio arnyn nhw.
"Mi wnes i brynu camera go lew rhyw dair blynedd yn ôl, a'i osod ar ochr tiwb y telesgop.
"Felly mae'r golau yn dod i mewn, mynd drwy'r tiwb, hitio'r main mirror yng gwaelod y tiwb, wedyn mae'n cael ei adlewyrchu 'nol i fyny. "Mae'r mirror bach, diagonal wedyn sydd yn nhop y tiwb yn adlewyrchu'r golau sy'n creu'r llun, allan drwy ochr y telesgop i'r camera."
Rhagor o leuadau
Ar nosweithiau clir yng Ngwalchmai, mae David yn mwynhau tynnu lluniau o'r lloer gyda'i delesgop cartref gan ei fod yn chwyddo'r lleuad i faint llun da. Dyma ambell leuad a dynnwyd o'i ardd yng Ngwalchmai.

Lleuad las a dynnwyd yng ngolau dydd dros haf 2021.

Tynnwyd ar noson olau leuad dros haf 2021.

Lleuad lwyd y tro hwn.
Mwy o'r awyr dywyll
Yn ogystal â'i delesgop cartref mae gan David sawl telesgop arall a lens ongl lydan er mwyn tynnu lluniau o ryfeddodau pell y gofod; o sêr a chomedau, i'r llwybr llaethog a galaethau.

Galaeth Andromeda, cymydog i'n galaeth ni sef Y Llwybr Llaethog.

Eglwys Santes Fair yn Nhal-y-Llyn, Sir Fôn ar noson serog, a golau'r Llwybr Llaethog dros haf 2021.

Y Llwybr Llaethog o Dal-y-Llyn, Sir Fôn yn ystod haf 2021.

Comed yn gwibio dros Walchmai un noson glir yn 2020.
Er bod ei delesgopau eraill yn tynnu lluniau gloyw o'r awyr dywyll, y telesgop a wnaeth o'r bibell ddraenio blastig sy'n tynnu'r lluniau cliriaf un, yn nhyb David.
Hefyd o ddiddordeb: