Drakeford: Cyfyngiadau Rhagfyr yn 'angenrheidiol ac effeithiol'

Roedd cyflwyno mesurau Covid-19 ychwanegol ym mis Rhagfyr yn "angenrheidiol" ac yn "effeithiol" dywedodd Prif Weinidog Cymru ddydd Gwener.

Bydd y mesurau'n cael eu llacio dros y pythefnos nesaf - ond fe bwysleisiodd Mark Drakeford nad "tro pedol" oedd hyn, fel y gwnaeth y Ceidwadwyr Cymreig ei honni.

Yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg, cyfeiriodd Mr Drakeford at ddata ar dwf Omicron ar hyd y DU.

Dangosodd y data fod ton Omicron yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn llai nag yn Lloegr, lle nad oedd gymaint o gyfyngiadau.

"Mae'n dangos o'dd pethau ni wedi 'neud yma yng Nghymru yn angenrheidiol - ac maen nhw wedi bod yn effeithiol hefyd."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Roedd e'n dweud wrthym ni [yn gynharach yn yr wythnos] ein bod ni yn llygad y storm a bod 10 diwrnod arall cyn y gallai symud, ac yna 48 awr wedyn mae'n symud."