'Twll du o wybodaeth' yn sgil ffrwydrad llosgfynydd Tonga

Mae menyw o Gaerdydd sydd â theulu yn Tonga yn dweud ei bod yn poeni amdanynt wedi i losgfynydd ffrwydro yn y Môr Tawel yn yr ardal dros y penwythnos.

Mi wnaeth y ffrwydrad achosi tswnami hefyd, ac mae manylion wedi bod yn brin o ran y sefyllfa yn lleol gan fod systemau ffôn a'r we wedi eu difrodi.

Mae'n debyg fod llwch wedi ei wasgaru dros rannau helaeth o'r wlad, ond mae adroddiadau cynnar yn awgrymu nad oes unrhyw farwolaethau.

Mae llywodraethau Seland Newydd ac Awstralia wedi gyrru awyrennau i'r wlad i geisio cael gwell syniad o'r hyn sydd yn digwydd.

Dywedodd Gwenno Uhi ar Dros Frecwast fore Llun fod teulu ei gŵr i gyd yn byw yn Tonga, ac er bod "twll du o wybodaeth" ar hyn o bryd, eu bod yn dawel hyderus eu bod yn iach.