Iechyd meddwl: 'Weithiau ti angen gofyn am yr help'
"Ma' ffermwyr mwy tough ar ei hun na neb arall," medd Tomos Jones o Ynys Môn.
"Hyd yn oed 'sa nhw'n torri llaw, ma' nhw jyst yn rhoi rhyw bandage arno fo a ma' nhw'n cario 'mlaen."
Wedi i'r ffermwr ifanc o ardal Gwalchmai ofyn am gymorth gan feddyg ynglŷn â'i iechyd meddwl, mae'n annog ffermwyr eraill i fod yn agored i ofyn am help.
"O'dd o'n deimlad od. Cyfaddef i dy hun bo' chdi wedi bod at ddoctor a bo' chdi hefo'r... Ie... bo' chdi'n dioddef 'lly."
"Ond, ie, weithiau ti angen gofyn am yr help. Ti angen o, 'de."