'Peryglu bywyd ein hunain a bywyda' pobl eraill'
Mae pobl sy'n byw ger un o brif ffyrdd y canolbarth yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau iddi ar frys.
Rai blynyddoedd yn ôl fe gafodd yr A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig ei disgrifio fel y ffordd fwyaf peryglus yng Nghymru.
Erbyn hyn mae'n cael ei hystyried yn ffordd risg ganolig, ond mae pobl leol yn dweud eu bod yn dal i bryderu am rai agweddau ohoni.
Un testun pryder yw goleuadau traffig 'dros dro' sydd wedi bod yn eu lle ers cyfnod hir ac mae yna anawsterau hefyd wrth gyffyrdd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae astudiaeth yn cael ei chynnal i asesu pa mor ddiogel yw'r ffordd ac mae goleuadau traffig yno am resymau diogelwch yn dilyn pryderon am dirlithriadau.