Dileu enwau Cymraeg yn 'codi cwestiynau mawr am y dyfodol'

Mae ymgyrchwyr wedi galw am wneud mwy er mwyn atal enwau Cymraeg rhag cael eu dileu o fapiau swyddogol pan fo enw Cymraeg traddodiadol yn cael ei newid.

Ers blynyddoedd, mae'r digrifwr a'r cyflwynydd Tudur Owen wedi bod yn ymgyrchu i geisio diogelu enwau Cymraeg ar lefydd.

Mae dadl wedi corddi ar gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar ynglŷn ag enw eiddo ger Gorslas yn Sir Gaerfyrddin.

Mae hen fapiau yn dangos ardal ger Llyn Llech Owain ar gyrion Gorslas yn glir fel 'Banc Cornicyll', ond ers y flwyddyn 2000 mae'r mapiau diweddaraf wedi cael gwared ar yr enw hanesyddol Cymraeg hwnnw, ac yn nodi enw'r adeilad ar y rhan yna o dir fel 'Hakuna Matata'.

Yn ôl Tudur Owen, mae'r ffaith fod hen enwau Cymraeg yn diflannu yn "eitha' difrifol" ac yn "codi cwestiynau mawr am y dyfodol".