Lisa Taylor: 'Lleoliad yn rhan mawr o waith Banksy'

Mae wedi dod i'r amlwg y gallai gwaith celf Banksy gael ei dorri'n ddarnau er mwyn ei symud o dde Cymru i Loegr.

Cafodd y gwaith ei brynu gan John Brandler yn fuan ar ôl iddo ymddangos ar ochr garej ym Mhort Talbot yn 2018 a'i symud i adeilad yn y dref.

Mae Mr Brandler yn bwriadu symud y gwaith celf i Ipswich yr wythnos nesaf - ond dywed y gallai fod yn rhy ddrud i'w symud mewn un darn.

Mae'r artist Lisa Taylor, sy'n wreiddiol o Ynys Môn, yn credu y dylai mwy fod wedi'i wneud i gadw'r gwaith yng Nghymru.

"Mae'n rhaid bod 'na reswm pam fod Banksy wedi dewis 'neud y gwaith yma ym Mhort Talbot," meddai ar Dros Frecwast.

"Mae mor drist bod o'n cael ei symud. Dwi'n meddwl y dylsa ni wedi brwydro mwy i gadw fo."