'Ymosod gan wybod taw gweinidog sy'n byw yma'
Mae gweinidog gyda'r Annibynwyr o'r Tymbl yn ystyried gosod camerâu cylch cyfyng ar ei gartref yn dilyn cyfres o ymosodiadau gwrthgymdeithasol yn y misoedd diwethaf.
Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C, fe fynegodd y Parchedig Emyr Gwyn Evans ofnau bod criw o lanciau lleol wedi ei dargedu am ei fod yn weinidog, gan daflu wyau a gwrthrychau eraill a churo drysau a ffenestri gyda'r nos.
Mae'r ymosodiadau, meddai, yn digwydd hyd at ddwywaith yr wythnos erbyn hyn, ac yn gwaethygu, gan effeithio arno ef a'i gymdogion.
Mae swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wedi cynnal ymholiadau a threfnu mwy o batrolau er mwyn tawelu ofnau pobl leol.
Maen nhw hefyd wedi "apelio'n uniongyrchol at rieni i fod yn ymwybodol o ble mae eu plant, a beth maent yn ei wneud".