'Ro'dd rhaid cwrso i gael triniaethau yn ystod Covid'

Mae 'na gynnydd mawr yn nifer y cleifion canser sy'n cael triniaethau yn adrannau brys ysbytai Cymru yn ôl pennaeth gwasanaethau canser Cymru.

Mae cleifion hefyd yn aros yn hirach nag erioed am apwyntiadau.

Dywed Llywodraeth Cymru bod miliynau o bunnau yn cael eu gwario ar gyfleusterau a chyfarpar newydd yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor o Landysul yn un o’r rhai sydd wedi gorfod oedi cyn cael triniaeth ond dywed fod y sefyllfa yn llawer gwell nawr nag yr oedd hi yn ystod y pandemig.