Y GIG yn y 'sefyllfa waethaf ers 25 mlynedd'
Mae llawfeddyg yn Abertawe sydd wedi bod yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd ers 25 mlynedd wedi dweud ei bod hi "methu meddwl am amser pan roedd pethau mor wael" o fewn y GIG ag y maen nhw nawr.
Dywedodd Dr Iona Collins fod y straen ar staff mor ddifrifol fod nifer ohonynt yn rhy sâl i weithio.
"Mae 'na bobl sydd yn llefain," ychwanegodd.
Dywedodd bod nifer o weithwyr iechyd yn gadael y proffesiwn, neu'n mynd i weithio dramor yn sgil y straen.
"Rwy'n meddwl fod 'na ffordd i weithio yn fwy effeithiol, ac mae'n rhaid gwrando ar y nyrsys, ar y meddygon i wneud y gwaith yn fwy effeithiol.
"Doedd pethau ddim yn edrych yn dda cyn Covid, ac mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi cael ei feirniadu am fod yn rhy gymhleth - mae' na ormod o fiwrocratiaeth - a nawr gyda Covid yn ychwanegol mae'n anodd iawn i ddarparu gofal."