Gwersi Cymraeg am ddim i bobl 16-25 a'r rhai ym myd addysg
O fis Medi ymlaen bydd gwersi Cymraeg ar gael am ddim i unrhyw un rhwng 16 a 25 oed ac i athrawon ac eraill ym maes addysg.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ei fod yn syniad gwych gan nad pawb sy'n cael cyfle i ddysgu Cymraeg yn blentyn ifanc ac mae llawer ohonom, meddai, yn penderfynu ar ôl i ni adael yr ysgol yr hoffem siarad Cymraeg yn amlach.
"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Dyma gam arall tuag at roi cyfle i bawb siarad Cymraeg a'n helpu i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."