Cael gwared ar hunan-ynysu yn 'gam yn rhy bell ar hyn o bryd'

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan yn meddwl fod cael gwared ar hunan-ynysu yn "gam rhy bell" ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y gallai deddfau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl wisgo mygydau gael eu dileu'n llwyr erbyn diwedd mis Mawrth.

Ond mae'r rheolau hunan-ynysu presennol yn parhau am y tro, gyda gweinidogion yn edrych eto ar y rheoliadau yma - a'r gweddill - ar 3 Mawrth.

Yn Lloegr fe fydd yr angen i hunan-ynysu yn dod i ben ar 24 Mawrth, ond fe allai ddigwydd mor gynnar â 21 Chwefror - cam sy'n pryderu Ms Morgan.