'Sioc llwyr' ar ôl i dyrbin gwynt anferth ddisgyn
Mae ymchwiliad wedi cychwyn ar ôl i dyrbin gwynt 337 troedfedd (115 metr) ddisgyn.
Dywedodd trigolion eu bod wedi clywed sŵn fel taranau a chlec uchel wrth i'r tyrbin ddisgyn yn ardal Gilfach Goch, Rhondda Cynon Taf, ddydd Llun.
Mae'r tyrbin anferth yn un o tua 30 sy'n edrych dros y pentref.
Dywedodd Dawn Walters, sy'n byw gerllaw, ei bod mewn "sioc llwyr" o weld beth a ddigwyddodd mor agos i'w chartref.
Mae cwmni peirianneg ac ynni adnewyddadwy Pennant Walters, sy'n gweithredu'r tyrbin, wedi cael cais i wneud sylw.