Storm Eunice yn taro arfordir Cymru ddydd Gwener

Mae degau o filoedd o dai heb drydan yng Nghymru ar ôl i Storm Eunice daro ddydd Gwener.

Cafodd gwyntoedd o dros 90mya eu cofnodi fore Gwener oddi ar arfordir Sir Benfro.

Daeth rhybudd coch - y mwyaf eithafol - i ben ar gyfer 10 o siroedd y de am hanner dydd.

Ond mae rhybudd oren am wyntoedd cryfion yn parhau mewn grym ar gyfer Cymru gyfan tan 21:00 nos Wener.

Dyma rhai golygfeydd o ardaloedd arfordirol Cymru wrth i donnau mawr daro.