Powys: 'Os does dim rhaid mynd i rywle, arhoswch adref'

Fe wnaeth y cynghorydd Myfanwy Alexander o Gyngor Sir Powys annog i bobl beidio â gyrru oni bai ei fod yn hanfodol yn sgil llifogydd nos Sul.

Mae dros 20 o rybuddion llifogydd mewn grym yng Nghymru yn ogystal â rhybuddion am wyntoedd cryfion.

Ychwanegodd y cynghorydd ei bod hi wedi clywed adroddiadau o dai dan ddŵr, a'i bod hi erioed wedi gweld llifogydd mor ddifrifol yn Nyffryn Banw, sydd rhwng Llanerfyl a Llanfair Caereinion yng ngogledd Powys.

"Os does dim rhaid i chi fynd i rywle - dw i'n sôn am raid... plîs aros gartre'," oedd ei neges.

Roedd hi'n tybio y byddai'r holl ffyrdd mewn i Feifod ynghau yn fuan.

"Os ti'n angen help, codwch y ffôn - mae pobl yma i'ch helpu chi."