Stori Jalisa: 'Dwi yn teimlo fel role model ddu'

"Dwi'n teimlo fel role model ddu," medd Jalisa Phoenix-Roberts, sydd wedi agor academi ddawns a theatr ar hen stad ddiwydiannol yn Llansawel ger Castell-nedd.

"Mae 'na lot o blant o liw yn yr ardal ac mae'n neis bo' nhw'n gallu gweld rhywun llwyddiannus yn dod o'r ardal."

Gyda'r bwriad o ddatblygu'r busnes ymhellach, mae Jalisa'n gobeithio cael cefnogaeth ar ôl dechrau'r academi heb unrhyw gymorth cychwynnol.

O'r 5,000 o fusnesau newydd mae Llywodraeth Cymru wedi'u cefnogi dros y pum mlynedd ddiwethaf, roedd 58% wedi eu cychwyn gan fenywod a 10% gan bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Mae Jalisa yn awyddus i greu cyfleodd yn ei bro enedigol, Port Talbot, a hefyd sicrhau bod yna fwy o gyfleoedd i blant drwy gyfrwng y Gymraeg.