Wcráin: Beth yw'r ymateb yn y gwledydd Balcanaidd?

Bron i wythnos ers i Rwsia lansio ei hymgyrch yn Wcráin, mae'r ymosodiadau gan luoedd Vladimir Putin yn dwysau, yn enwedig mewn dinasoedd fel Kharkiv, Kherson a Kyiv.

Mae Rhys Hartley yn wreiddiol o Gaerdydd, ond bellach yn byw yn Belgrade, Serbia, sydd ychydig dros 500 milltir i'r de o Wcráin.

Dywedodd wrth Dros Frecwast fore Mercher fod "pobl wedi drysu braidd" yno ynglŷn â phwy i gefnogi.

Mae'r wlad yn ceisio "eistedd ar ddwy gadair" meddai. Mae yn y broses o geisio ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, ond mae'r llywodraeth hefyd yn ceisio cynnal perthynas dda gyda Rwsia.

Ychwanegodd fod cysylltiadau cryf gyda Rwsia am ei bod wedi cefnogi Serbia yn y rhyfeloedd yn nwyrain Ewrop yn y 90au, ond fod y lluniau o'r bobl a'r bomio yn Wcráin yn eu hatgoffa o beth ddigwyddodd yn ardal Serbia bryd hynny.