Wcráin: 'Neb yn credu be' sy'n digwydd nawr'

"Dal sownd - ni'n sefyll gyda chi. Ie, ni'n crio gyda chi ond ni'n gweddïo gyda chi hefyd."

Dyna flas o'r neges ddiwethaf y danfonodd menyw o Sir Gâr fore Iau at ffrind o Wcráin sy'n gaeth ers dyddiau yn ei fflat yn y brifddinas Kyiv, cyn disgrifio sefyllfa'r teulu mewn cyfweliad dirdynnol â Newyddion S4C.

Mae Lydia Power yn nabod y teulu ers iddi aros gyda nhw wrth ymweld â'r wlad gyda'i heglwys dros 20 mlynedd yn ôl, ac mae wedi bod mewn cysylltiad yn ddyddiol gyda'r fam, sydd yn ei 70au.

Wythnos wedi dechrau ymgyrch filwrol Rwsia yn erbyn Wcráin, mae'n dweud bod "ni a nhw yn sefyll gyda'n gilydd mewn gobaith" y daw'r brwydro i ben mor fuan â phosib.

Ond gydag un o feibion ei chyfaill wedi gorfod ymuno â'r fyddin gan ffarwelio â'i wraig a'i blentyn, a'r sefyllfa yn y wlad yn gwaethygu'n ddyddiol, dywed Lydia: "'Sa i'n gw'bod shwt maen nhw'n ymdopi os mae hyn yn cario ymlaen."