Covid: Meddyg yn gofyn i bobl 'ystyried pobl eraill'
Fe allai'r cyfyngiadau Covid sy'n parhau mewn grym yng Nghymru gael eu diddymu ar 28 Mawrth.
Dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru awgrymu dyddiad ynglŷn â phryd y gallai'r cyfreithiau ar wisgo mygydau a hunan-ynysu ddod i ben.
Mae gweinidogion wedi cyhoeddi hefyd y bydd profi "cyffredinol" yn dod i ben yn raddol o ddiwedd Mawrth.
Cymru fydd y wlad olaf yn y DU i ddiddymu'r holl gyfyngiadau coronafeirws.
Ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Gwener, roedd Dr Eilir Hughes yn siarad am ei bryder y bydd pobl yn cymryd hyn fel arwydd bod y pandemig ar ben.
Ond meddai y bydd "Covid gyda ni am rai blynyddoedd eto," ac roedd yn bryderus am bobl fregus neu mewn iechyd gwael wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio.
Ychwanegodd: "Dwi yn falch i ryw raddau bod yna oedi wedi bod yn y cyhoeddiad yma yng Nghymru i gymharu hefo rhannau eraill o Brydain.
"Pan 'da chi yn llacio rheolau fel hyn mae rhaid chi neud yn siŵr bod chi yn neud o ar adeg sydd yn saffach i ryw raddau, ond wrth gwrs cael balans yna gyda y gost na hefyd i bobl, a 'da ni yn gw'bod bod lledaeniad y feirws yn gostwng yn nes ydach chi yn mynd at y tywydd gwell, at yr haf.
"Sôn am ddiwedd mis Mawrth... mae hynna yn swnio yn llawer mwy synhwyrol na 'neud o pan oedd y tywydd yn fwy garw."