'Mae'n anodd coelio faint o stwff sydd 'di cyrraedd'
Yn y dyddiau ers i Rwsia ddechrau ymosod ar Wcráin, mae pobl o bob cwr o'r wlad wedi ymateb i'r alwad am gymorth i'r rhai sydd wedi ffoi rhag y bomiau a'r taflegrau.
Ers wythnos mae maint anferthol o nwyddau wedi cyrraedd warws yn Wrecsam yn dilyn apêl gan ganolfan Bwylaidd leol.
Mae'n fwriad i'w cludo i'r ffin rhwng Wcráin a Gwlad Pwyl ar gyfer ffoaduriaid "mewn daer angen".
Megis dechrau yw derbyn y rhoddion, fel yr eglura un o'r cannoedd o wirfoddolwyr yn Wrecsam, Leah Hughes.