Ffurfio grŵp sglefrolio i ferched a phobl anneuaidd

Mae grŵp sglefrolio i ferched a phobl anneuaidd wedi cael cannoedd yn cofrestru ers iddo gael ei sefydlu yn y cyfnod clo.

Teimlai Jess Mead, myfyrwraig PhD, nad oedd yn ffitio i mewn pan aeth i'w pharc sglefrio lleol yn Abertawe.

Felly sefydlodd grŵp Facebook yn gofyn a oedd merched neu bobl anneuaidd â diddordeb mewn sglefrolio mewn amgylchedd mwy cefnogol.

Mynychodd tua 10 o bobl i ddechrau, ond mae'r sesiynau dan do mewn neuadd chwaraeon wedi dod yn orlawn ers hynny.