Shane Williams yn trafod gobeithion Cymru yn erbyn Ffrainc

Dywed cyn-asgellwr Cymru Shane Williams fod tîm Ffrainc sy'n wynebu Cymru yng Nghaerdydd nos Wener yn edrych yn garfan gref a hyderus.

Byddai curo Cymru yn mynd â nhw gam agosach at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad a'r Gamp Lawn.

Ond er ei fod o'n "becso 'chydig bach" am y gêm mae hefyd yn credu fod Cymru gartre' yn "dîm gwahanol ac yn gallu maeddu unrhyw dîm".