Beth oedd y pethau arwyddocaol yn Natganiad y Gwanwyn?

Bydd treth ar danwydd yn cael ei dorri ar unwaith o 5c y litr am 12 mis, wrth i Lywodraeth y DU geisio mynd i'r afael â'r cynnydd sylweddol mewn costau byw.

Wrth gyhoeddi ei Ddatganiad y Gwanwyn ddydd Mercher, dywedodd y Canghellor Rishi Sunak hefyd y bydd y trothwy yn codi ar gyfer y swm y mae pobl yn ei ennill cyn talu Yswiriant Gwladol.

Beth oedd y tri pheth mwyaf arwyddocaol yn y datganiad felly? Gohebydd busnes BBC Cymru, Huw Thomas sy'n dadansoddi.