'Angen i'r plant fod yn hapus er mwyn dysgu'

"Mae angen i'r plant fod yn hapus er mwyn dysgu," medd pennaeth ysgol gynradd ym Mhowys sydd wedi cymryd camau i wella lles disgyblion ers y pandemig.

Yn Ysgol Cwm Banwy, fe wnaeth Betsan Llwyd sylwi fod yna mwy o "orbryder" ymysg y disgyblion yn sgil Covid-19.

Er mwyn dod i'r afael â hyn, fe wnaeth yr ysgol gyflwyno sawl newid - gan gynnwys agor ystafell synhwyraidd, a threfnu i Beti'r ci ymweld â'r ysgol unwaith yr wythnos.

Rhaid sicrhau bod y plant yn deall ac yn medru ymdopi gyda'u teimladau, medd Ms Llwyd.