Orthios: 'Bydd rhaid ni grafu am jobsys newydd'

Daeth cadarnhad fod prif gyllidwr preifat cwmni Orthios - menter ailgylchu ar Ynys Môn - wedi penderfynu rhoi'r busnes yn nwylo'r gweinyddwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran rheolwyr y cwmni eu bod hwythau wedi dychryn gyda'r datblygiadau.

Ond i nifer o'r 140 o weithwyr - fel Elwyn Kieron Birchall a Gwilym Parry - mae'n hyd yn oed yn fwy o sioc.