Dementia: 'Gwylio ffilm wedi gwneud i fi feddwl am gyflwr Dad'

Roedd Peter Jones yn flaenasgellwr pwerus fu'n chwarae yn ystod y 1970au, 80au a'r 90au cynnar.

Ond yn ei 50au hwyr fe ddechreuodd ddangos arwyddion o ddementia. Bu farw'r llynedd yn 71 oed.

Roedd Peter yn chwarae rygbi yn ystod y cyfnod amatur ond roedd yn derbyn llawer o ergydion yn ystod gemau, yn ôl ei fab, Lloyd.

Dechreuodd Lloyd gysylltu cyflwr ei dad â rygbi ar ôl gwylio ffilm am chwaraewyr pêl-droed Americanaidd oedd â dementia.

Yma, mae'n rhannu ei stori.