Chwe Gwlad: Cymru yn 'edrych ymlaen' at herio Lloegr
Dywed capten tîm rygbi menywod Cymru fod y garfan yn edrych ymlaen at wynebu pencampwyr presennol y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
"Mae'n rhaid i ni gymryd step ymlaen eto er mwyn mesur ein hun yn erbyn Lloegr... ond dyma'r fath o tests ni moyn," medd Siwan Lillicrap.
Dros y penwythnos, fe wnaeth Cymru ennill eu hail gêm yn olynol ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am y tro cyntaf ers 2015.
Llwyddon nhw i drechu'r Alban o 24-19 wythnos ar ôl eu buddugoliaeth o 27-19 yn erbyn Iwerddon.
Daw hyn wedi i nifer o chwaraewyr gael cytundebau proffesiynol am y tro cyntaf eleni.