Pennal: 'Corwynt' wedi achosi difrod 'dychrynllyd'

Mae perchennog busnes yn honni bod "corwynt" wedi achosi gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod i'w ffermdy.

Dywedodd Deilwen Breese o Bennal, ger Machnynlleth, fod y gwyntoedd pwerus wedi hyd yn oed codi ŵyn bach i'r awyr a thynnu coed o'r ddaear ger ei heiddo.

Dywedodd fod y difrod, a ddigwyddodd brynhawn Mercher, wedi ei gadael mewn dagrau.

Chafodd neb ei anafu ond mae Mrs Breese yn amcangyfrif bod "dros £100,000 o waith i'w wneud ar y toeau yn unig".

Darllenwch y stori'n llawn yma.