Casglu 'geiriau babi' er mwyn helpu rhieni newydd
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin yn galw ar bobl i rannu'r geiriau maen nhw'n eu defnyddio wrth siarad gyda babanod er mwyn eu rhannu gyda rhieni newydd.
Parentese yw'r term am y ffordd y mae oedolion yn defnyddio geirfa syml iawn, fel bow wow, mê-mê a mŵ-mŵ yn lle ci, dafad a buwch, wrth gyfathrebu gyda babis a phlant bach.
Mae'n fethodoleg sy'n bodoli ar draws y byd, ac yn aml yn cynnwys ystumiau a thôn llais gwahanol wrth ynganu'r geiriau.
Ond am y tro cyntaf mae'n fwriad i gasglu'r geiriau hyn yn Gymraeg er mwyn darparu geirfa ar gyfer rhieni sy'n llai hyderus wrth ddefnyddio'r iaith neu sy'n ddysgwyr, fel eu bod yn gallu siarad Cymraeg gyda'u plant o'r cychwyn cyntaf.